Penarth seafront gets £200,000 facelift
PENARTH Esplanade is set for a series of improvements in the latest round of upgrading work carried out by the Vale of Glamorgan Council.
Contractors have been commissioned to undertake the £200,000 project, which will see the pier, pavilion, and surrounding areas painted and refurbished, with further road resurfacing work also taking place.
Railings, benches, bollards, lighting columns, decking around the pavilion, the Pier Head Hut and toilets will be painted as part of work expected to be completed by the end of the year.
Scaffolding required for elements of the scheme will be erected in sections to preserve the appearance of the area and ensure minimal disruption to businesses.
While a two-week programme of road resurfacing is completed, sections of highway between Bridgeman Road and Marine Parade will be closed during the daytime on weekdays from 11th to 22nd October.
The Big Fresh Catering Company’s popular café and other businesses on the esplanade and pier will remain open as normal. This refurbishment follows earlier work on the esplanade, which has included road resurfacing and pavement alterations. It is part of a comprehensive set of improvements implemented by the council since it took over operation of the pavilion in February.
Vale council cabinet member for leisure, arts and culture, Cllr Kathryn McCaffer said: “We know how important Penarth Esplanade is to residents and visitors alike. It is an iconic location that has proved popular for more than 100 years and one that we believe has a very bright future. Having lived in Penarth since I was a child, I’m very excited to see how the esplanade and pavilion will look at the end of the works.”
She added: “They, along with the pier, will undergo a comprehensive programme of painting and refurbishment to get them looking back to their best. We hope that will make the area even more appealing, increasing visitor numbers and boosting the local economy.”
The pavilion cinema and bar have already reopened, and discussions are ongoing over staging more musical and artistic events at the venue. Other suggestions to come out of a recent public survey include using the building as a street-food space and holding classes and group sessions there.
GLAN Y MÔR PENARTH I GAEL GWEDDNEWIDIAD GWERTH £200,000
Mae Esplanâd Penarth yn ymbaratoi ar gyfer cyfres o welliannau yn y rownd ddiweddaraf o waith uwchraddio gan Gyngor Bro Morgannwg.
Comisiynwyd contractwyr i gwblhau’r prosiect gwerth £200,000, a fydd yn gweld y pier, y pafiliwn a’r ardaloedd cyfagos yn cael eu paentio a’u hadnewyddu, gyda gwaith pellach o ail-wynebu ffyrdd hefyd yn digwydd.
Bydd rheiliau, meinciau, bolardiau, colofnau goleuo, y decin o amgylch y pafiliwn, Pen y Pier a thoiledau yn cael eu paentio, a disgwylir i’r gwaith gael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn.
Bydd sgaffaldiau sy’n ofynnol ar gyfer rhannau o’r cynllun yn cael eu codi fesul rhan i gadw golwg yr ardal a sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl ar fusnesau.
Tra bod rhaglen bythefnos o ail-wynebu ffyrdd yn cael ei chwblhau, bydd rhan o’r briffordd rhwng Bridgeman Road a Marine Parade ar gau yn ystod y dydd ar ddyddiau’r wythnos rhwng 11 a 22 Hydref, ond bydd caffi poblogaidd y Big Fresh Catering Company yn parhau ar agor drwyddi draw.
Mae’r gwaith adnewyddu hwn yn dilyn gwaith cynharach ar y esplanâd sydd wedi cynnwys gosod wyneb newydd ar y ffordd a newidiadau i balmentydd.
Mae’n rhan o gyfres gynhwysfawr o welliannau a weithredwyd gan y Cyngor ers iddo gymryd yr awenau yn y pafiliwn ym mis Chwefror.
Dywedodd y Cynghorydd Kathryn McCaffer, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant: “Rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw Esplanâd Penarth i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd. Mae’n lleoliad eiconig sydd wedi bod yn boblogaidd ers dros 100 mlynedd ac yn un sydd â dyfodol disglair iawn yn ein barn ni.
“Yn y cam diweddaraf o waith gwella, bydd yr esplanâd, y pier a’r pafiliwn yn gweld rhaglen gynhwysfawr o waith peintio ac adnewyddu yn mynd rhagddo i’w gael i edrych yn ôl ar ei orau.
“Rydym yn gobeithio y bydd hynny’n gwneud yr ardal hyd yn oed yn fwy deniadol, yn cynyddu nifer yr ymwelwyr ac yn rhoi hwb i’r economi leol.”
Mae sinema a bar y pafiliwn eisoes wedi ailagor ac mae trafodaethau’n parhau ynghylch cynnal digwyddiadau cerddorol a chelfyddydol yn y lleoliad. Ymhlith yr awgrymiadau eraill i ddod allan o arolwg cyhoeddus diweddar mae defnyddio’r adeilad fel man bwyd stryd a chynnal dosbarthiadau a sesiynau grŵp yno.








